top of page

 

 

Fel ysgol fro, y mae Bro Myrddin yn cynnig addysg sy’n ceisio ateb

anghenion yr unigolyn mewn awyrgylch cefnogol a hollol Gymreig.

Cynigir yr un cyfle cyfartal i bob disgybl ddatblygu hyd eithaf ei allu

yn academaidd, yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol, yn feddyliol ac

yn gorfforol. (Polisi Cyfle Cyfartal ar gael yn yr ysgol)

 

 

​

​

  • Creu cymdeithas fyw lle y gwerthfawrogir gwerthoedd moesol ac
    ysbrydol a lle y pwysleisir rhinweddau megis cyfiawnder,
    gonestrwydd, ymddiriedaeth, goddefgarwch ac ymdeimlad o
    ddyletswydd.

​

  • Rhoi cyfle i bob disgybl feistroli’r grefft o gyfathrebu drwy’r
    Gymraeg a’r Saesneg, gan bwysleisio’r Gymraeg fel iaith naturiol
    yr ysgol.

     

  • Cynorthwyo’r disgybl i ddatblygu sgiliau ar gyfer byd gwaith a
    fydd yn ei alluogi i weithio fel aelod o dîm ac yn annibynnol.

     

  • Paratoi pob disgybl i fyw fel aelod cyfrifol a gwerthfawr o’r gymdeithas, i ddatblygu perthynas gadarnhaol gydag eraill ac i ddatblygu hunan-barch a pharch at bobl, eiddo a’r amgylchedd.
     

  • Cynorthwyo’r disgybl i werthfawrogi treftadaeth a diwylliant Cymru ac i fedru cyfrannu at gymdeithas amlieithog yng Nghymru, Ewrop a’r byd.
     

  • Sicrhau cyfleoedd priodol i holl aelodau staff yr ysgol i ddatblygu’n
    broffesiynol.

     

  • Wrth geisio gwireddu’r uchod, pwysleisir y bartneriaeth a’r
    cydweithio angenrheidiol rhwng disgyblion, aelodau o staff,
    rhieni a llywodraethwyr.

 

Heb Ddysg Heb Ddeall 

yggbm-badge23.jpg
bmdi-20.jpg
BRo6-1.jpg
Nôd yr ysgol
Amcanion yr ysgol
bottom of page