![](https://static.wixstatic.com/media/a2cba5_a19cd8c737f049eb8755f303ee5d190b.jpg/v1/fill/w_288,h_216,al_c,q_80,usm_0.66_1.00_0.01,blur_2,enc_auto/a2cba5_a19cd8c737f049eb8755f303ee5d190b.jpg)
Ysgol Gyfun Gymraeg
BRO MYRDDIN
BRO MYRDDIN
Welsh Comprehensive School
Heb Ddysg Heb Ddeall - Without learning there is no understanding
![yggbm-badge23.jpg](https://static.wixstatic.com/media/a2cba5_d6918d832679409aa35318a4964b2d07~mv2.jpg/v1/crop/x_0,y_12,w_588,h_594/fill/w_190,h_192,al_c,q_80,usm_0.66_1.00_0.01,enc_auto/yggbm-badge23.jpg)
Dr Llinos Jones - Pennaeth / Headteacher
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
Croes-y-Ceiliog
Caerfyrddin / Carmarthen
Sir Gaerfyrddin / Carmarthenshire
Cymru / Wales
SA32 8DN
Rhif ffôn / Telephone - 01267 234829
E-bost / E-mail - swyddfa@bromyrddin.org
![](https://static.wixstatic.com/media/a2cba5_516d193e6c564b89a9a56b068421e4fe~mv1.gif)
![](https://static.wixstatic.com/media/a2cba5_606b01477e4c4ad188e0715e08b026ae~mv2.jpg/v1/fill/w_210,h_206,al_c,q_80,usm_0.66_1.00_0.01,enc_auto/a2cba5_606b01477e4c4ad188e0715e08b026ae~mv2.jpg)
Cadeirydd – Nicola Rees
Ysgrifennydd – Gwenllian Evans
Trysorydd – Miriam James
Clwb 500 – Mari Campbell
Gweplyfr(Facebook) CRA - Facebook.com/crabromyrddinpta
Trydar(Twitter) CRA - @craybmpta
​
​
Mae’r Gymdeithas Rieni ac Athrawon yn bodoli i feithrin cyfeillgarwch ymhlith rhieni ac athrawon ac i godi arian er lles yr ysgol. Dros gyfnod o flwyddyn mae’r pwyllgor yn trosglwyddo swm sylweddol o arian i’r ysgol er mwyn cynorthwyo yr ysgol gyda datblygiadau arbennig. Er mwyn codi’r arian hyn mae’r gymdeithas yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau megis Noson Rhostio Mochyn a Cwis, Noson Harddwch ac ati. Bwriad y pwyllgor eleni yw i godi £5,000 eto. Mae gennym rai cynlluniau ond plîs os oes rhai ohonoch a syniadau neu yn medru gwirfoddoli rhowch alwad i ysgrifenyddes y Pennaeth er mwyn cael mwy o wybodaeth a chyswllt gyda swyddogion y pwyllgor.
Ar hyn o bryd rydym yn cysylltu â rhieni trwy negeseuon testun, Facebook a Twitter. Ffordd hawdd iawn o godi arian i ni yw
‘Y Clwb 500’. Mae pob teulu yn gallu ymuno am £12 y flwyddyn. Yn fisol ceir tair gwobr a’r rhifau lwcus fydd yn ennill. Gellir casglu ffurflenni oddi wrth aelodau’r pwyllgor.
CLWB 500
GWOBRAU DA BOB MIS
1. £30
2. £20
3. £10
Mae’r Gymdeithas Rieni ac Athrawon yma er lles ein hieuenctid ni. Mae pob ceiniog a godwyd yn ystod y flwyddyn yn cael ei wario ar ein plant. Diolch am eich cefnogaeth i’r gweithgareddau eleni ac rwy’n hollol hyderus y bydd llwyddiant ysgubol yr ysgol yn parhau.